Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

(CLA(4)-05-11)

 

CLA31

 

Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Teitl: Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu wrth Dderbyn i’r Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2011

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Yn ôl adran 108(2)(b)(iii) Deddf Addysg 2002 gall Gweinidogion Cymru bennu’r trefniadau asesu y maent yn ystyried yn briodol ar gyfer y cyfnod sylfaen drwy orchymyn. Mae’r Gorchymyn hwn yn sefydlu’r trefniadau hynny. 

 

Materion technegol: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

 

Rhinweddau: craffu

 

O dan Reol Sefydlog 21.3(ii) gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn hwn - (ii) ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

 

Mae erthygl 5 yn cynnwys y ddarpariaeth anarferol ganlynol –

Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw ddarpariaeth sy’n rhoi effaith lawn i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn neu’n ychwanegu atynt rywfodd arall (ac eithrio darpariaeth sy’n rhoi neu’n gosod swyddogaethau fel a grybwyllir yn adran 108(6) o Ddeddf 2002) ac sy’n ymddangos yn hwylus iddynt.”

 

Y pŵer galluogi yw Adran 108(11) Deddf Addysg 2002 ac sy’n nodi-

“An order under subsection (2)(b)(iii) or (3)(c) may authorise the making of such provisions giving full effect to or otherwise supplementing the provisions made by the order (other than provision conferring or imposing functions as mentioned in subsection (6) or (7)) as appear to the Welsh Ministers to be expedient; and any provisions made under such an order shall, on being published as specified in the order, have effect for the purposes of this Part as if made by the order.”

 

O ganlyniad bydd Gweinidogion Cymru’n gallu gwneud darpariaethau pellach i roi’r Gorchymyn presennol ar waith yn llawn neu ychwanegu at ei ddarpariaethau, heb orfod gwneud gorchymyn diwygio a fyddai’n  destun craffu i’r Cynulliad. Serch hyn, defnyddiwyd y pŵer hwn gan y Cynulliad ar sawl achlysur (yn wreiddiol rhoddwyd y pŵer i’r Cynulliad) a gan Weinidogion Cymru (trosglwyddwyd y pŵer i Weinidogion Cymru yn dilyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006).

 

Nid yw hyn yn ddefnydd anarferol nac annisgwyl o’r pŵer yn adran 108(11), sydd i’w nodi o dan Reol Sefydlog 21.2(ii), ond mae’n bŵer anarferol, ac felly yn un pwysig. 

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

Awst 2011